Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Mawrth, 23 Ionawr 2018

Amser: 09.18 - 10.43
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
4522


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

David J Rowlands AC (Cadeirydd)

Rhun ap Iorwerth AC

Janet Finch-Saunders AC

Mike Hedges AC

Neil McEvoy AC

Tystion:

Paul Apreda, Deisebydd

Dr Sue Whitcombe, Chartered Psychologist

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc)

Kath Thomas (Dirprwy Glerc)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.  Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

</AI1>

<AI2>

2       Deisebau newydd

</AI2>

<AI3>

2.1   P-05-794 Gostwng yr Oedran Pleidleisio i Un ar Bymtheg

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am gyhoeddi'r ymgynghoriad cyhoeddus ar ddiwygio etholiadol ac annog y deisebwyr a chefnogwyr eraill i gyflwyno eu barn ar hyn.

 

</AI3>

<AI4>

2.2   P-05-795 Achosi Niwsans neu Aflonyddwch ar safleoedd y GIG

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb pellach gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol cyn ystyried unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb.

 

</AI4>

<AI5>

2.3   P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn.

 

</AI5>

<AI6>

2.4   P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu'r wybodaeth a ddarparwyd gan y deisebwyr a gofyn a fyddai'r data hirdymor mwy diweddar y cyfeiriwyd ato yn rhan o unrhyw ystyriaeth bellach gan Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan, cyn ystyried a ddylid cymryd tystiolaeth lafar ar y mater.

</AI6>

<AI7>

3       Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

</AI7>

<AI8>

3.1   P-04-667 Cylchfan ar gyfer Cyffordd yr A477/A4075

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i aros am ddiweddariad pellach gan y deisebwyr mewn perthynas â'u gohebiaeth â chwmnïau cludiant cyn ystyried unrhyw gamau pellach.

</AI8>

<AI9>

3.2   P-05-722 Diogelu Anghenion Addysgol Arbennig

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r cynnig blaenorol i ymgysylltu gan Gyngor Sir Castell-nedd Port Talbot, ac am na dderbyniwyd ymateb yn ddiweddar gan y deisebydd.

 

</AI9>

<AI10>

3.3   P-05-787 Achub Cenhedlaeth y Dyfodol yng Nghymru

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb yng ngoleuni boddhad y deisebydd gyda'r wybodaeth a ddarparwyd gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a diolch iddo am ei ymgysylltiad â'r broses ddeisebau.

 

</AI10>

<AI11>

3.4   P-05-742 Peidiwch â gadael i Forsythia gau

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth bresennol yng Nghanolfan Ieuenctid Forsythia ac a ydynt wedi bod yn rhan o drafodaethau gyda'r Cyngor ynghylch dyfodol y Ganolfan.

 

</AI11>

<AI12>

3.5   P-05-766 Dylid Gwneud Opsiwn Fegan yn Orfodol Mewn Ffreuturiau Cyhoeddus

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb am ei bod yn anodd gweld sut y gall y Pwyllgor ei dwyn ymlaen heb gyswllt gan y deisebydd.

 

</AI12>

<AI13>

3.6   P-05-764 Gwell Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Oedolion

Trafododd y Pwyllgor gefndir y ddeiseb a chytunodd i ystyried y materion a godwyd gan y ddeiseb fel rhan o'i sesiwn dystiolaeth a gaiff ei chynnal cyn bo hir gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ddeiseb P-05-736 i Ddarparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl Mwy Hygyrch.

 

</AI13>

<AI14>

3.7   P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

</AI14>

<AI15>

3.8   P-05-790 Mynd i'r afael â chysgu ar y stryd

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i wneud y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ymwybodol o'r ddeiseb fel rhan o'i Ymchwiliad presennol i gysgu allan yng Nghymru, ac anfon copi o adroddiad y Pwyllgor hwnnw at y deisebydd unwaith y bydd ar gael.

 

</AI15>

<AI16>

3.9   P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i anfon sylwadau'r deisebydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a gofyn am ragor o fanylion am yr astudiaeth ymchwil a gwaith arolygu asesiadau stoc, gan gynnwys pwy fydd yn ei gynnal a'r amserlenni ar gyfer y canlyniadau.

 

</AI16>

<AI17>

4       Sesiwn Dystiolaeth - P-05-751 Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd i wahodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant a CAFCASS i roi tystiolaeth mewn cyfarfod yn y dyfodol, ac ystyried casglu rhagor o dystiolaeth am y ddeiseb fel rhan o drafodaeth yn y dyfodol am flaenraglen waith y Pwyllgor.

</AI17>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>